Ages
7-11
Oed
A family show where imagination runs wild
Sioe deuluol lle mae’r dychymyg yn dawnsio
"Bonkers and stylish"
Audience Member
“fun, weird and funny”
Young person
“ very funny”
The Guardian
t
r
a
i
l
e
r
t
r
e
l
a
r
Roll up, Roll up: Be amazed and amused in the wonderful world of Zoetrope!
Dewch yn llu i gael eich diddanu a’ch syfrdanu ym myd rhyfeddol Zoetrope!
Imaginations will run wild as Chimps, lizards and skeletons leap and cartwheel across a stage exploding with clever effects and music.
This entrancing family experience combines all the fun of the fair with acrobatics and dance to explore the meaning of life, the origins of film and our attraction to magic.
Choreography by the legendary Lea Anderson MBE
Bydd eich dychymyg yn rhedeg yn wyllt wrth i fadfallod, tsimpansïaid a sgerbydau neidio a llamu ar draws llwyfan, yn archwilio cerddoriaeth ac effeithiau clyfar.
Mae’r profiad swynol hwn i’r teulu cyfan yn cyfuno holl hwyl y ffair gyda champau acrobatig a dawns er mwyn archwilio ystyr bywyd, tarddiad ffilm a’n hatyniad at hud a lledrith.
Coreograffi gan yr enwog Lea Anderson MBE.
When | Pryd
Sherman Theatre, Cardiff | Theatr y Sherman, Caerdydd
Saturday | Dydd Sadwrn:
21 September | Medi 2.30pm*
*Join us from 12.30pm for free family activities
*Ymunwch â ni o 12.30yp am weithgareddau am ddim i’r teulu, Sganiwch am fwy o wybodaeth
Book Now | Archebwch Nawr
Taliesin, Swansea|Abertawe
Friday | Dydd Gwener
4 October | Hydref 1pm
Theatr Brycheiniog, Brecon
Thursday | Dydd Iau
17 October | Hydref 1pm
Hafren, Newtown|Drenewydd
Friday | Dydd Gwener
25 October | Hydref 1pm
Pontio, Bangor
Thursday | Dydd Iau
7 November | Tachwedd 1pm
Lawrence Batley Theatre, Huddersfield
Wednesday | Dydd Mercher
13 November | Tachwedd 1pm
Aberystywth Arts Centre | Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Thursday | Dydd Iau
21 November | Tachwedd 1pm
FAQ
How Long is the show? | Beth yw hyd y sioe?
1 hour | 1 awr
How much are tickets?
Ticket price changes depending on the venue, but all tickets are under £10.
Beth yw pris y tocynnau?
Mae prisiau tocynnau’n amrywio yn ôl y lleoliad, ond mae pob tocyn dan £10.
What is the show About?
Zoetrope was inspired by early animation machines, fun fairs and human evolution - but you don’t need to know any of that to enjoy the show.
Am beth mae’r Sioe yn sôn?
Cafodd Zoetrope ei hysbrydoli gan beiriannau animeiddio cynnar, ffeiriau pleser ac esblygiad dynol - ond nid oes gofyn i chi wybod unrhyw beth am hynny i fwynhau’r sioe.
Can I buy refreshments at the Dance House?
The Dance House doesn’t have any refreshment facilities but you’re welcome to bring your own.
Oes modd prynu lluniaeth yn y Tŷ Dawns?
Nid oes cyfleusterau lluniaeth yn y Tŷ Dawns ond mae croeso i chi ddod â’ch bwyd a diod eich hun.
What language is the show in?
Zoetrope is a visual spectacle which includes very little spoken word, so can be enjoyed by everyone.
Beth yw iaith y sioe?
Sioe weledol yw Zoetrope, sy’n cynnwys prin ddim sgwrs lafar, felly gall pawb ei mwynhau.
Is there any strobe or loud noises or anything scary?
Zoetrope includes some flashing lights, but no strobe and no loud noises.
There are some skeleton and monkey characters in Zoetrope - here’s a video to introduce you to them.
A yw’r sioe yn cynnwys strôb, synau uchel neu unrhyw beth dychrynllyd?
Mae Zoetrope yn cynnwys ychydig o oleuadau’n fflachio, ond dim strôb na synau uchel.
Mae yna gymeriadau ysgerbwd a mwnci yn Zoetrope - dyma fideo i’w cyflwyno nhw i chi.
What is a Zoetrope?
A zoetrope is a pre-film animation device that produce the illusion of motion by displaying a sequence of drawings or photographs showing progressive phases of that motion.
Beth yw Zoetrope?
Mae zoetrope yn ddyfais animeiddio cyn y ffilm sy’n cynhyrchu camargraff o symudiad drwy arddangos cyfres o luniadau neu ffotograffau sy’n dangos camau dilynol y symudiad hwnnw.
FAMILY FUN DAY | Diwrnod Hwyl i’r Teulu
We’re offering free workshops to audiences to Zoetrope, our brand new show for schools and families.
Those attending at Sherman Theatre, Cardiff on Saturday 21 September can enjoy a prop making workshop followed by a chance to boogie, before watching a brilliant performance.
Activites from 12.30pm
Workshops will take place in the foyer - simply turn up to take part.
Rydym yn cynnig gweithdai am ddim i gynulleidfaoedd Zoetrope, ein sioe newydd ar gyfer ysgolion a theuluoedd.
Gall y rhai sy’n mynychu Theatr Sherman, Caerdydd ar ddydd Sadwrn 21 Medi fwynhau gweithdy creu propiau a chael cyfle i ddawnsio, cyn gwylio perfformiad gwych.
Gweithgareddau o 12.30yp
Bydd gweithdai yn cael eu cynnal yn y cyntedd - galwch heibio a chymerwch ran.
parents | Rhieni
We have a series of free activity sheets and videos to do and make at home!
Mae gennym gyfres o fideos a thaflenni gweithgareddau am ddim ichi eu gwneud gartref!
Schools | ysgolion
Dance is one of the five disciplines of the Expressive Arts Area of Learning and Experience.
As Wales’ experts in dance, we want to share that knowledge with the nations teachers so that everyone has the chance to dance.
Teachers attending Zoetrope will be provided with resource packs including lesson plans, to use before and after the performance so that young people can attend with confidence and discuss their thoughts afterwards.
Mae dawns yn un o bum disgyblaeth y Maes Celfyddydau Mynegiannol o Ddysgu a Phrofiad.
Fel arbenigwyr dawns yng Nghymru, rydym yn awyddus i rannu ein harbenigedd gydag athrawon y genedl er mwyn i bawb gael cyfle i ddawnsio.
Bydd athrawon sy’n mynychu Zoetrope yn cael Pecyn Cymorth i Athrawon a fydd yn cynnwys adnoddau ar gyfer gwersi a awgrymir eu haddysgu cyn y perfformiad. Bydd y pecyn hefyd yn cynnwys cynlluniau gwersi a awgrymir eu haddysgu ar ôl y perfformiad, er mwyn annog sgwrs ac i archwilio cynnwys y perfformiad ymhellach.
Pecyn Cymorth
The Arts Council of Wales’ Go & See grant can provide funding for up to 90% of both tickets and travel.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig grant ‘Ewch i Weld’ sy’n talu am hyd at 90% o gost y tocyn a thrafnidiaeth.